P-05-922 Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Wendy Charles-Warner, ar ôl casglu cyfanswm o 5,447 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i dynnu'n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref.
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref. Mae hyn yn mandadu bod yn rhaid i rieni sy’n addysgu yn y cartref gwrdd â’u hawdurdod lleol a chaniatáu i’r awdurdod lleol gyfweld â’u plant. Rydym wedi cael cyngor cyfreithiol arbenigol sy’n hawlio bod y canllawiau’n anghyfreithlon ac mae’r deisebwyr yn gofyn bod y canllawiau’n cael eu tynnu’n ôl i’w hailystyried yng ngoleuni’r cyngor hwnnw.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
· Dyffryn Clwyd
· Gogledd Cymru